#

 

 

 

 


Rhif y ddeiseb: P-05-732

Teitl y ddeiseb: Amseroedd Aros Annerbyniol ar gyfer Cleifion y GIG yn Adran Damweiniau ac Achosion Brys Wrecsam / Ysbyty Maelor Wrecsam

Testun y Ddeiseb: Rwy’n galw ar Gynulliad Cymru i drafod a gweithredu mesurau i fynd i’r afael ag amseroedd aros annerbyniol ar gyfer pobl Cymru yn Adran Damweiniau ac Achosion Brys Wrecsam / Ysbyty Maelor Wrecsam.  Mae pobl Cymru yn ymddangos yn ddigalon ac wedi’u tanseilio oherwydd y sefyllfa annerbyniol hon.

 

Y cefndir

Defnyddir Fframwaith Canlyniadau GIG Cymru 2016-17, a ryddhawyd yn WHC (2016) 23, i fesur cyflawniad drwy gydol 2016-17. Mae Llywodraeth Cymru yn pennu targedau cenedlaethol ar gyfer ei wasanaethau gofal brys fel yr amlinellir isod.

Adrannau achosion brys: Y targedau yn ymwneud ag amser a dreulir mewn adrannau Damweiniau ac Achosion brys yw:

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ystadegau ar yr amser a dreuliwyd yn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys GIG Cymru am  y chwarter sy'n dod i ben Medi 2016 , ac mae'r ffigurau hyn hefyd yn dangos y duedd dros amser. Mae'r ffigurau ar gyfer mis Hydref a mis Tachwedd 2016 bellach ar gael drwy  Wasanaeth Gwybodeg y GIG  a chanlyniadau allweddol Cymru gyfan ar gyfer mis Tachwedd 2016 oedd:

Mae'r sefyllfa o ran Ysbyty Maelor Wrecsam, y ddau Ysbyty Cyffredinol Dosbarth arall ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a ffigurau Cymru-gyfan ar gyfer Gorffennaf - Tachwedd 2016 wedi’i hamlinellu isod, ynghyd â data cymharol ar gyfer 2015 ::

Tabl 1: Canran y cleifion a dreuliodd lai na phedair awr yn yr adran Damweiniau ac Achosion Brys o'r adeg y gwnaethant gyrraedd nes eu bod yn cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau

 

Gorffennaf 2016

Awst 2016

Medi 2016

Hydref 2016

Tachwedd 2016

Ysbyty Maelor Wrecsam

66.4

73

72

(67.2 :Medi 2015)

75

(69.8: Hydref 2015)

71.6

(67: Tach 2015)

Ysbyty Glan Clwyd

69.7

65.2

69.7

72.6

67.8

Ysbyty Gwynedd

80.2

78.9

78.4

81

76.6

Cymru Gyfan

83.2

84.4

82.8

82.4

82

Ffynhonnell: Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru

Tabl 2: Canran y cleifion a dreuliodd lai na 12 awr yn yr adran Damweiniau ac Achosion Brys o'r adeg y gwnaethant gyrraedd nes eu bod yn cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau

 

Gorffennaf 2016

Awst 2016

Medi 2016

Hydref 2016

Tachwedd 2016

Ysbyty Maelor Wrecsam

95.6

95.4

96

(95.9:Medi 2015)

95.3

(94.5: Hydref 2015)

94.4

(94.4: Tach 2015)

Ysbyty Glan Clwyd

92

91.2

89.3

90

89

Ysbyty Gwynedd

96.3

97

96.1

96.2

94.2

Cymru Gyfan

97.4

97.6

96.8

96.8

96.3

Ffynhonnell: Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru

Yn hwyr yn 2016, cynhaliodd Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y 5ed Cynulliad  ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016-17  o ran gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru. Nododd  adroddiad ymchwiliad  y Pwyllgor y pwysau parhaus drwy gydol y flwyddyn ar wasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys yng Nghymru, er ei fod yn cydnabod bod cynnydd tymhorol yn y galw, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf. Clywodd y Pwyllgor bryderon gan y  Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys  (RCEM) am y pwysau ar adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ledled Cymru. Mae'r RCEM wedi ailadrodd y pryderon hynny yn ddiweddar; mae Llywodraeth Cymru wedi nodi’r pwysau parhaus ar wasanaethau gofal iechyd a dywedodd y bydd yn parhau i weithio gyda'r Coleg ac arbenigwyr iechyd i wella’r ddarpariaeth gofal brys ac argyfwng.

Mae'r galw cynyddol hwn hefyd yn amlwg mewn ardaloedd eraill yn y DU, gyda GIG Lloegr yn profi pwysau sylweddol mewn perthynas â gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys.

Y camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei  bapur i'r Pwyllgor  ar gyfer ei sesiwn ar 15 Medi 2016:

Mae'r ystadegau diweddaraf a gyhoeddwyd yn dangos bod amserau aros mewn adrannau achosion brys ysbytai yng Nghymru yn parhau i wella. Er gwaethaf derbyn tua 2,880 bob dydd, treuliodd 83.2% o gleifion lai na 4 awr mewn adrannau achosion brys yn cael eu brysbennu, eu diagnosis a’u trin rhwng yr amser cyrraedd hyd nes cawsant eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Roedd yna ostyngiad hefyd yn nifer y bobl sy'n aros dros 12 awr. Mae mwy o waith i'w wneud gan fyrddau iechyd, a disgwylir iddynt weithio i wella profiadau cleifion a dileu oedi maith.

Mae'r Pwyllgor hefyd wedi cael gohebiaeth dyddiedig 16 Rhagfyr 2016 oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, sy'n datgan:

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.   Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.